Neuadd Goffa, Llangain, Caerfyrddin. SA33 5AE
Ymholiadau : Claire Sell, Sarah Davies or Sue Holmes naill ai ar teleffon 01267 88 37 97 neu drwy ebost neuaddllangainhall@gmail.com
www.llangainmemorialhall.wales
www.carmarthenshirehalls.org.uk/llangain
GWEITHGAREDDAU Y NEUADD – Gwelir y linc ar y brif ddewislen uchod.
Adeiladwyd NEUADD GOFFA LLANGAIN A’R CYLCH ym 1963, am £7,000 (ychydig dros £100,000 yn arian heddiw yn 2018), ar dir a roddwyd gan Mr Tom Roberts o (Fferm) Penycoed. Y Pensair oedd Berwyn Thomas A’i Bartneriaid o Gaerdydd, a’r adeiladwr oedd D. Geo Lewis A’i Fab o Stryd y Priordy yng Nghaerfyrddin.
Agorwyd y neuadd yn swyddogol ar ddydd Gwener, 3 Ebrill, 1964. Dadorchuddiwyd y llechen goffa, gydag enwau’r rheiny a laddwyd yn y ddau Ryfel Byd arni, gan Mrs May Davies, chwaer yr Is-gorporal Willie Davies o Gastell Moel, a fu farw o’i glwyfau ar y 23ain o Fawrth 1918 yn 20 oed.
Estynnwyd ac adnewyddwyd yr adeilad yn y 90au hwyr i gynnwys mynediad i’r anabl, diolch i Fwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol a chymwynaswyr eraill. Mae gan y neuadd system sain hefyd, diolch i gymorth gan Fwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol. Adeiladwyd yr estyniad fel stordy i ddal cyfarpar Clwb Ieuenctid Llangain a hefyd mae system golau llwyfan wedi ei gosod, diolch i gymorth ariannol gan Gyngor Sir Gâr a Chyngor Celfyddydau Cymru yn ôl eu trefn.
NODWEDDION A CHYFLEUSTERAU Neuadd fodern ac eang gyda naws gyfoes. Mae gan y brif neuadd ddwy fynedfa drws dwbl yn y ffrynt a’r cefn â digonedd o oleuni naturiol, gyda llenni tebyg i’r llwyfan a’r ffenestri. Mae yna stribedi gwres trydan yn y nenfwd.
Ar y llwyfan, ac wrth gefn y llwyfan, mae yna fan eang a delfrydol i gynnal dramâu a chynyrchiadau theatr, gyda chyfarpar golau a sain, gan gynnwys microffonau. Hefyd, mae darllenfa bren ar gael, a gellir ei weld ar y llwyfan ger y switshis gwres a golau wrth ddrws y gegin.
Lleolir cegin o faint canolig a’r stordy i’r chwith i’r llwyfan ac mae yna ddigon o le i baratoi, a chyfarpar fel ffwrn trydan, oergell a ffwrnficro ayb.
Ystafelloedd Technoleg Gwybodaeth a Phwyllgor i gefn y neuadd gyda bwrdd snwcer yn yr olaf.
TALIADAU LLOGI
- Prif Neuadd £15 yr awr.
- Ystafell Bwyllgor £10 yr awr.
- Achlysur £100.
- Cegin ar gael ar gyfer lluniaeth.
- CYSYLLTIAD Â’R RHYNGRWYD (Wi-Fi = LLangain1).
Rhif Elusen Gofrestredig : 503 503
Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn: English