Croeso i wefan Cymunedol Llangain
HYSBYSIADAU SYDYN
- Swyddfa Bost a Siop Dydd Mawrth a Dydd Iau : 9.30yb – 12.00yp. Neuadd Goffa. (Dean Thomas, Is-Bostfeistr. Tel : 211 873).
- Llyfrgell Symudol Bob tair wythnos ar ddydd Iau : 9.15yb – 11.15yb. Neuadd Goffa a Ger-y-Capel. Unrhyw ymholiadau cysylltwch â Steffani James trwy ebost SteJames@carmarthenshire.gov.uk neu ffonio 01267 224 830.
- Sedd Wag Cyngor Cymuned
Cynghorau Cymuned yw’r cyswllt rhwng y gymuned a’r Cyngor Sir ac maent yn rhan bwysig o ddemocratiaeth leol. Os oes gennych chi ychydig o egni, llawer o frwdfrydedd ac awydd i roi rhywbeth yn ôl i’ch pentref, yna cysylltwch â ni i gael gwybod mwy. Mae croeso i bawb ond, rydym yn ymwybodol iawn mai ychydig gynrychiolaeth o blith merched a phobl ifanc o fewn y gymuned sydd gan y cyngor presennol. Gallwch e-bostio clerk@llangain.cymru neu ffonio Susan Holmes ar 07384 399 930 am fanylion pellach.
-
Penblwyddi 95 Oed Ers y Mileniwm mae’r cyngor cymuned wedi gweithredu polisi o gydnabod unrhyw bersonau yn y gymuned sy’n cyrraedd eu pen-blwydd yn 95 oed. Mewn cymuned mor fach mae’n annhebygol y byddai gennym berson yn gant oed unrhyw bryd yn fuan yn wahanol i dref neu sir lle mae’r cyngor perthnasol yn cydnabod y 100fed penblwydd. Os oes unrhyw un yn gwybod am ben-blwydd o’r fath ar y gweill ar unrhyw adeg, rhowch wybod i’r cyngor yn synhwyrol naill ai drwy ebost clerk@llangain.cymru neu ffonio Susan Holmes ar 07384 399 930 neu cysylltwch â chynghorydd.
-
Gwefan Newydd Ffederasiwn Ysgolion Bancyfelin, Llangain a Llansteffan
Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn: English
